1 Samuel 25:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda'r dodrefn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma fe'n rhoi gorchymyn i'w ddynion, “Pawb i wisgo'i gleddyf!” Ac wedi iddyn nhw i gyd wneud hynny, dyma tua pedwar cant ohonyn nhw'n mynd gyda Dafydd, gan adael dau gant ar ôl gyda'r offer.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd wrth ei ddynion, "Gwregyswch bawb ei gleddyf." Wedi iddynt hwy a Dafydd hefyd wregysu eu cleddyfau, aeth tua phedwar cant ohonynt i fyny ar l Dafydd, gan adael dau gant gyda'r offer.