1 Samuel 25:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un o'r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd, Wele, Dafydd a anfonodd genhadau o'r anialwch i gyfarch gwell i'n meistr ni; ond efe a'u difenwodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser roedd un o weision Nabal wedi dweud wrth Abigail, “Roedd Dafydd wedi anfon negeswyr o'r anialwch i gyfarch y meistr, ond dyma fe'n gweiddi a rhegi arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd un o'r llanciau wedi dweud wrth Abigail, gwraig Nabal, "Clyw, fe anfonodd Dafydd negeswyr o'r diffeithwch i gyfarch ein meistr, ond fe'u difrodd.