1 Samuel 25:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi bod yn dda iawn wrthon ni. Wnaethon nhw ddim tarfu arnon ni, na dwyn dim yr holl amser roedden ni gyda'n gilydd yng nghefn gwlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu'r dynion yn dda iawn wrthym ni, heb ein cam-drin na pheri dim colled inni yr holl adeg y buom yn ymdroi gyda hwy pan oeddem yn y maes.