1 Samuel 25:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Abigail a frysiodd, ac a gymerth ddau cant o fara, a dwy gostrelaid o win, a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod, a phum hobaid o gras ŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a'u gosododd ar asynnod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Abigail yn brysio i gasglu bwyd a'i roi ar gefn asynnod: dau gan torth o fara, dwy botel groen o win, pum dafad wedi eu paratoi, pum sachaid o rawn wedi ei grasu, can swp o rhesins a dau gant o fariau ffigys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Brysiodd Abigail a chymryd dau gan torth o fara a dwy botel o win, pum dafad wedi eu paratoi a phum hobaid o greision, a hefyd can swp o rawnwin a dau gant o ffigys. Llwythodd hwy ar asynnod,