1 Samuel 25:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o'r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Dafydd wedi bod yn meddwl, “Roedd hi'n wastraff amser llwyr i mi warchod eiddo'r dyn yna yn yr anialwch! Gymerais i ddim oddi arno, a dyma fe nawr yn talu drwg am dda i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Dafydd wedi dweud, "Y mae'n amlwg mai'n ofer y bm yn gwarchod holl eiddo hwn yn y diffeithwch, heb iddo golli dim o'r cwbl oedd ganddo; y mae wedi talu imi ddrwg am dda.