1 Samuel 25:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i'r ARGLWYDD dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â'th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a'r sawl a geisiant niwed i'm harglwydd, megis Nabal.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A nawr, syr, heb unrhyw amheuaeth, mae'r ARGLWYDD yn dy gadw di rhag tywallt gwaed a dial drosot ti dy hun. Boed i dy elynion, a phawb sydd am wneud drwg i ti, fod fel Nabal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly'n awr, syr, cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, gan i'r ARGLWYDD dy atal rhag dod i dywallt gwaed a dial drosot dy hun, bydded dy elynion a'r rhai sy'n ceisio drwg iti, syr, fel Nabal.