1 Samuel 25:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr ARGLWYDD gan wneuthur a wna i'm harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr ARGLWYDD, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Plîs maddau i mi am fusnesa. Mae Duw yn mynd i sicrhau dy linach di, syr, am byth. Brwydrau'r ARGLWYDD wyt ti'n eu hymladd. Dwyt ti erioed wedi gwneud dim byd o'i le!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Maddau gamwri dy wasanaethferch, oherwydd yn sicr bydd yr ARGLWYDD yn creu olyniaeth sicr i ti, syr, am dy fod yn ymladd brwydrau'r ARGLWYDD; a byth ni cheir dim bai ynot.