1 Samuel 25:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er cyfodi o ddyn i'th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda'r ARGLWYDD dy DDUW; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os bydd rhywun yn codi yn dy erbyn a ceisio dy ladd di, bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy gadw di'n saff. Ond bydd bywyd dy elyn yn cael ei daflu i ffwrdd fel carreg o ffon dafl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd unrhyw ddyn yn codi i'th erlid ac i geisio dy fywyd, bydd dy fywyd di, syr, wedi ei rwymo yn rhwymyn bywyd gyda'r ARGLWYDD dy Dduw; ond bydd bywyd dy elynion yn cael ei hyrddio fel carreg o ffon dafl.