1 Samuel 25:40 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a'n hanfonodd ni atat ti, i'th gymryd di yn wraig iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma weision Dafydd yn mynd i Carmel at Abigail a dweud wrthi, “Mae Dafydd wedi'n hanfon ni i ofyn i ti ei briodi e.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth gweision Dafydd i Garmel at Abigail a dweud wrthi, "Y mae Dafydd wedi'n hanfon ni atat i'th gymryd yn wraig iddo."