1 Samuel 25:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gofyn i'th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i'th law, i'th weision, ac i'th fab Dafydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofyn i dy weision; gallan nhw ddweud wrthot ti mai felly roedd hi. Felly, wnei di fod yn garedig at fy ngweision i? Maen nhw wedi dod i dy weld ar ddydd gŵyl. Oes gen ti rywbeth i'w sbario i'w roi i dy weision ac i dy was Dafydd?’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofyn i'th lanciau, ac fe ddywedant wrthyt. Felly rho dderbyniad caredig i'm llanciau innau, oherwydd daethom ar ddiwrnod da; rho'r hyn sydd agosaf at dy law i'th weision ac i'th fab Dafydd.'"