1 Samuel 26:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a gymerth y waywffon, a'r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul; a hwy a aethant ymaith; ac nid oedd neb yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro: canys yr oeddynt oll yn cysgu; oherwydd trymgwsg oddi wrth yr ARGLWYDD a syrthiasai arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Dafydd yn cymryd y waywffon a'r botel ddŵr oedd wrth ben Saul, a dianc heb i neb weld na chlywed dim, na hyd yn oed troi yn ei gwsg. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud iddyn nhw i gyd gysgu'n drwm.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd Dafydd y waywffon a'r gostrel ddu373?r oedd yn ymyl pen Saul, ac ymaith hwy heb i neb weld na gwybod na deffro. Yr oedd pawb yn cysgu, am i'r ARGLWYDD anfon trymgwsg arnynt.