1 Samuel 26:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid da y peth hyn a wnaethost ti. Fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, meibion euog o farwolaeth ydych chwi, am na chadwasoch eich meistr, eneiniog yr ARGLWYDD. Ac yn awr edrychwch pa le y mae gwaywffon y brenin, a'r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnest ti ddim job dda iawn. Dych chi i gyd yn haeddu marw am beidio amddiffyn eich meistr, yr un wnaeth yr ARGLWYDD ei eneinio'n frenin. Dos i edrych ble mae gwaywffon y brenin, a'r botel ddŵr oedd wrth ei ben!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid da yw'r peth hwn a wnaethost; cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr ydych yn wir yn haeddu marw am beidio gwarchod eich meistr, eneiniog yr ARGLWYDD. Edrych yn awr; ple mae gwaywffon y brenin, a'r gostrel ddu373?r oedd wrth ei ben?"