1 Samuel 26:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn awr gan hynny, atolwg, gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr. Os yr ARGLWYDD a'th anogodd di i'm herbyn, arogled offrwm: ond os meibion dynion, melltigedig fyddant hwy gerbron yr ARGLWYDD; oherwydd hwy a'm gyrasant i allan heddiw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Dos, gwasanaetha dduwiau dieithr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gad i'm meistr y brenin wrando ar beth sydd gan dy was i'w ddweud. Os mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy annog di i wneud hyn, dylai gael ei offrwm. Ond os mai pobl feidrol wnaeth, byddan nhw'n cael eu melltithio ganddo! Maen nhw wedi fy ngyrru i allan o dir yr ARGLWYDD ei hun, fel petaen nhw'n dweud, ‘Dos i addoli duwiau eraill!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwrandawed f'arglwydd frenin yn awr ar eiriau ei was. Os yr ARGLWYDD sydd wedi dy annog i'm herbyn, derbynied offrwm; ond os bodau meidrol, bydded iddynt fod dan felltith gerbron yr ARGLWYDD, am iddynt fy ngyrru allan heddiw rhag cael fy rhan yn etifeddiaeth yr ARGLWYDD, a dweud, 'Dos, addola dduwiau eraill.'