1 Samuel 26:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Saul wrth Dafydd, Bendigedig fych di, fy mab Dafydd: hefyd ti a wnei fawredd, ac a orchfygi rhag llaw. A Dafydd a aeth i ffordd; a Saul a ddychwelodd i'w fangre ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Saul yn ei ateb, “Bendith arnat ti Dafydd, machgen i. Does dim amheuaeth dy fod ti'n mynd i lwyddo.” Yna dyma Dafydd yn mynd i ffwrdd ac aeth Saul yn ôl adre.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Saul wrth Ddafydd, "Bendith arnat, fy mab Dafydd; fe wnei di orchestion a llwyddo." Wedi hynny aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Saul adref.