1 Samuel 26:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a wersyllodd ym mryn Hachila, yr hwn sydd ar gyfer y diffeithwch, wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i'r anialwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Saul yn codi gwersyll wrth y ffordd fawr ar Fryn Hachila wrth ymyl Jeshimon, ond roedd Dafydd allan yn yr anialwch. Pan glywodd Dafydd fod Saul wedi dod ar ei ôl,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwersyllodd Saul ar y briffordd ym mryn Hachila gyferbyn Jesimon, tra oedd Dafydd yn aros yn yr anialwch.