1 Samuel 26:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai mab Serfia, brawd Joab, gan ddywedyd, Pwy a â i waered gyda mi at Saul i'r gwersyll? A dywedodd Abisai, Myfi a af i waered gyda thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd Dafydd i Achimelech yr Hethiad, ac i frawd Joab, sef Abishai fab Serwia, “Pwy sydd am ddod i lawr gyda mi i wersyll Saul?” A dyma Abishai yn ateb, “Dof i hefo ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troes Dafydd a gofyn i Ahimelech yr Hethiad ac Abisai fab Serfia, brawd Joab, "Pwy a ddaw i lawr gyda mi i'r gwersyll at Saul?" Atebodd Abisai, "Fe ddof fi gyda thi."