1 Samuel 26:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos. Ac wele Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y wersyllfa, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear wrth ei obennydd ef: ac Abner a'r bobl oedd yn gorwedd o'i amgylch ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ar ôl iddi nosi, dyma Dafydd ac Abishai yn mynd i ganol y milwyr. A dyna lle roedd Saul yn cysgu. Roedd ei waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear wrth ei ben, ac roedd Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i gwmpas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Dafydd ac Abisai i blith y milwyr liw nos, a dyna lle'r oedd Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y canol, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear yn ymyl ei ben, ac Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i amgylch.