1 Samuel 26:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd, DUW a roddes heddiw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef, atolwg, â gwaywffon, hyd y ddaear un waith, ac nis aildrawaf ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae Duw wedi rhoi dy elyn yn dy afael di heddiw,” meddai Abishai wrth Dafydd. “Gad i mi ei drywanu a'i hoelio i'r ddaear gyda'r waywffon. Un ergyd fydd ei angen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Abisai wrth Ddafydd, "Y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi dy elyn heddiw yn dy law; gad imi ei drywanu i'r ddaear 'r waywffon ag un ergyd; ni fydd angen ail."