1 Samuel 27:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddywedodd yn ei galon, Yn awr difethir fi ryw ddydd trwy law Saul: nid oes dim well i mi na dianc i dir y Philistiaid; fel yr anobeithio Saul ddyfod o hyd i mi, ac na'm ceisio mwy yn holl derfynau Israel. Felly y dihangaf o'i law ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddyliodd Dafydd, “Mae Saul yn mynd i'm lladd i un o'r dyddiau yma. Y peth gorau i mi fyddai dianc i wlad y Philistiaid. Wedyn bydd Saul yn rhoi'r gorau i geisio dod o hyd i mi yn ngwlad Israel. Bydda i wedi llwyddo i ddianc o'i afael.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddyliodd Dafydd, "Rhyw ddiwrnod fe'm difethir trwy law Saul; y peth gorau i mi fydd dianc draw i wlad Philistia, fel na fydd gan Saul obaith dod o hyd imi yn unman o fewn cyrrau Israel; a byddaf yn ddiogel o'i gyrraedd."