1 Samuel 27:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi ohonynt i'n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd e byth yn gadael neb yn fyw, dynion na merched, rhag ofn iddyn nhw ddod i Gath a dweud beth oedd e'n wneud go iawn. A dyma fuodd Dafydd yn ei wneud yr holl amser roedd yn aros yng nghefn gwlad Philistia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd Dafydd yn gadael yr un dyn na dynes yn fyw i gario newyddion i Gath, rhag iddynt adrodd yr hanes a dweud, "Fel hyn y gwnaeth Dafydd, a dyma'i arfer tra bu'n byw yng nghefn gwlad Philistia."