1 Samuel 27:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a'i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Achis yn trystio Dafydd ac yn meddwl, “Mae'n siŵr fod ei bobl yn Israel yn ei ffieiddio'n llwyr erbyn hyn! Bydd e'n was i mi am byth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Achis yn credu Dafydd ac yn meddwl, "Yn sicr y mae wedi ei ffieiddio gan ei bobl Israel, a bydd yn was i mi am byth."