1 Samuel 27:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a gyfododd, ac a dramwyodd, efe a'r chwe channwr oedd gydag ef, at Achis mab Maoch, brenin Gath.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fe a'i chwe chant o ddynion yn croesi drosodd i dref Gath at y Brenin Achis, mab Maoch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cychwynnodd Dafydd, a'r chwe chant o ddynion oedd gydag ef, a mynd at Achis fab Maoch, brenin Gath.