1 Samuel 27:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a arhosodd gydag Achis yn Gath, efe a'i wŷr, pob un gyda'i deulu; Dafydd a'i ddwy wraig, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal, y Garmeles.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Arhosodd Dafydd, a'i ddynion a'u teuluoedd, gydag Achis yn Gath. Roedd dwy wraig Dafydd gydag e hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arhosodd Dafydd gydag Achis yn Gath, ef a'i ddynion a'u teuluoedd; a chyda Dafydd yr oedd ei ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal o Garmel.