1 Samuel 27:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o'r maestrefi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Dafydd yn gofyn i Achis, “Plîs ga i fynd i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad? Ddylwn i, dy was, ddim bod yn byw yn ninas y brenin.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd wrth Achis, "Os gweli'n dda, gad imi gael lle i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad. Pam y dylai dy was fyw yn y brifddinas gyda thi?"