1 Samuel 27:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a'i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a'r Gesriaid, a'r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddai Dafydd yn mynd allan gyda'i ddynion i ymosod ar y Geshwriaid, y Girsiaid a'r Amaleciaid. (Roedden nhw wedi bod yn byw yn yr ardal ers amser maith, o Shwr hyd at wlad yr Aifft.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddai Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Gesuriaid a'r Gersiaid a'r Amaleciaid (oherwydd hwy oedd yn preswylio'r wlad o Telam, ar y ffordd i Sur, hyd at yr Aifft).