1 Samuel 28:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr ei di gyda mi allan i'r gwersylloedd, ti a'th wŷr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tua'r adeg yna, dyma'r Philistiaid yn casglu eu byddinoedd at ei gilydd i fynd allan i ryfela yn erbyn Israel. A dyma Achis yn dweud wrth Dafydd, “Dw i eisiau i ti ddeall fy mod i'n disgwyl i ti a dy ddynion ddod gyda mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr adeg honno casglodd y Philistiaid eu lluoedd arfog i ryfela ag Israel. Dywedodd Achis wrth Ddafydd, "Yr wyf am i ti wybod dy fod ti a'th ddynion i fynd allan gyda mi yn y fyddin."