1 Samuel 28:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a dyngodd wrthi hi i'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Saul yn addo ar lw o flaen yr ARGLWYDD, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydd dim byd drwg yn digwydd i ti am wneud hyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tyngodd Saul iddi yn enw'r ARGLWYDD, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni ddaw dim niwed iti o hyn."