1 Samuel 28:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a'r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd hi Samuel, dyma'r ddynes yn rhoi sgrech. “Pam wnest ti fy nhwyllo i?” meddai, “Saul wyt ti!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y ddynes Samuel, gwaeddodd llais uchel, a dweud wrth Saul, "Pam yr wyt wedi fy nhwyllo? Saul wyt ti."