1 Samuel 28:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a'th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac meddai Dafydd, “Iawn, cei weld drosot dy hun be alla i, dy was, ei wneud!” A dyma Achis yn ei ateb, “Iawn, cei fod yn warchodwr personol i mi o hyn ymlaen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd, "Cei wybod felly beth a all dy was ei wneud." Ac meddai Achis, "Am hynny yr wyf yn dy benodi'n warchodwr personol i mi am byth."