1 Samuel 28:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wraig a ddaeth at Saul, ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn; a hi a ddywedodd wrtho ef, Wele, gwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di, a gosodais fy einioes mewn enbydrwydd, ac ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y wraig yn gweld gymaint roedd Saul wedi dychryn, ac meddai wrtho, “Dw i, dy forwyn, wedi gwneud beth roeddet ti eisiau. Ro'n i'n mentro fy mywyd yn gwrando arnat ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth y ddynes at Saul gwelai ei fod wedi cynhyrfu drwyddo, a dywedodd wrtho, "Edrych, fe wrandawodd dy was-anaethferch arnat, a chymerais fy mywyd yn fy nwylo trwy wrando ar yr hyn a ddywedaist wrthyf;