1 Samuel 28:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond efe a wrthododd, ac a ddywedodd, Ni fwytâf. Eto ei weision a'r wraig hefyd a'i cymellasant ef; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt. Ac efe a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a eisteddodd ar y gwely.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gwrthod wnaeth Saul, a dweud ei fod e ddim eisiau bwyta. Ar ôl i'w weision a'r wraig bwyso arno dyma fe'n gwrando yn y diwedd. Cododd oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gwrthododd, a dweud nad oedd am fwyta. Wedi i'w weision a'r ddynes bwyso arno, gwrandawodd arnynt, a chodi oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely.