1 Samuel 28:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn tŷ; a hi a frysiodd, ac a'i lladdodd ef, ac a gymerth beilliaid, ac a'i tylinodd, ac a'i pobodd yn gri:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan y wraig lo gwryw wedi ei besgi, felly dyma hi'n ei ladd yn syth. Wedyn dyma hi'n cymryd blawd a pobi bara heb furum ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd gan y ddynes lo pasgedig yn y cwt, a brysiodd i'w ladd; hefyd cymerodd flawd a'i dylino a phobi bara croyw.