1 Samuel 28:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a'i dug gerbron Saul, a cherbron ei weision: a hwy a fwytasant. Yna hwy a gyfodasant, ac a aethant ymaith y noson honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gosododd y bwyd o flaen Saul a'i weision. Yna ar ôl iddyn nhw fwyta, dyma nhw'n gadael y noson honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe'u gosododd o flaen Saul a'i weision; ac wedi iddynt fwyta, aethant ymaith ar unwaith y noson honno.