1 Samuel 28:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Saul yn newid ei ddillad a chymryd arno fod yn rhywun arall. Aeth â dau ddyn gydag e a mynd i weld y wraig ganol nos. Meddai wrthi, “Consuria i mi, a galw i fyny y person dw i'n gofyn amdano.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd ei weision wrtho, "Y mae yna ddewines yn Endor." Newidiodd Saul ei ymddangosiad, a gwisgo dillad gwahanol, ac aeth dau ddyn gydag ef a dod at y ddynes liw nos a dweud, "Consuria imi trwy ysbryd, a dwg i fyny ataf y sawl a ddywedaf wrthyt."