1 Samuel 28:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a'r dewiniaid o'r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r wraig yn ei ateb, “Ti'n gwybod yn iawn be mae Saul wedi ei wneud. Mae wedi gyrru pawb sy'n ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw allan o'r wlad. Wyt ti'n ceisio gosod trap i'm lladd i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd y ddynes wrtho, "Fe wyddost beth a wnaeth Saul, ei fod wedi difa'r dewiniaid a'r swynwyr o'r wlad; pam felly yr wyt ti'n ceisio fy rhwydo a'm lladd?"