1 Samuel 29:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Beth a wna yr Hebreaid hyn yma? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid, Onid dyma Dafydd, gwas Saul brenin Israel, yr hwn a fu gyda mi y dyddiau hyn, neu y blynyddoedd hyn, ac ni chefais ddim bai ynddo ef, er y dydd y syrthiodd efe ataf hyd y dydd hwn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pwy ydy'r Hebreaid yma?” holodd capteiniaid y Philistiaid. “Dafydd ydy e wrth gwrs,” meddai Achis wrthyn nhw. “Roedd yn arfer bod yn was i Saul, brenin Israel. Ond mae e wedi bod gyda mi bellach ers blwyddyn a mwy. Dydy e wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y daeth e drosodd aton ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai capteiniaid y Philistiaid, "Pwy yw'r Hebreaid hyn?" Atebodd Achis hwy: "Dafydd, wrth gwrs, gwas Saul brenin Israel; y mae wedi bod gyda mi am flwyddyn, os nad dwy, ac nid wyf wedi cael dim o'i le ynddo o'r diwrnod y cyrhaeddodd hyd heddiw."