1 Samuel 29:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho; a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho, Gwna i'r gŵr hwn ddychwelyd i'w le a osodaist iddo, ac na ddeled i waered gyda ni i'r rhyfel; rhag ei fod yn wrthwynebwr i ni yn y rhyfel: canys â pha beth y rhyngai hwn fodd i'w feistr? onid â phennau y gwŷr hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd capteiniaid y Philistiaid yn wyllt hefo Achis, “Anfon y dyn yn ei ôl! Gad iddo fynd yn ôl i ble bynnag roist ti iddo fyw. Paid gadael iddo ddod i ymladd gyda ni, rhag ofn iddo droi yn ein herbyn ni yng nghanol y frwydr. Pa ffordd well fyddai iddo ennill ffafr ei feistr eto na gyda pennau'r dynion yma?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond aeth capteiniaid y Philistiaid yn ddig wrtho a dweud, "Anfon y dyn i ffwrdd; aed yn l i'r lle a ddarperaist iddo. Ni chaiff ddod i lawr gyda ni i'r frwydr, rhag iddo droi'n wrthwynebydd i ni yn ystod y frwydr. Sut y gallai hwn ennill ffafr ei arglwydd yn well nag phennau'r milwyr hyn?