1 Samuel 29:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Achis a alwodd Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel mai byw yr ARGLWYDD, diau dy fod di yn uniawn, ac yn dda yn fy ngolwg i, pan elit allan a phan ddelit i mewn gyda mi yn y gwersyll: canys ni chefais ynot ddrygioni, o'r dydd y daethost ataf fi hyd y dydd hwn: eithr nid wyt ti wrth fodd y tywysogion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Achis yn galw Dafydd ato a dweud, “Mor siŵr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, dw i'n gwybod dy fod ti'n ddyn gonest. Byddwn i wrth fy modd yn dy gael di'n mynd allan gyda ni i ymladd. Dwyt ti wedi gwneud dim o'i le o'r diwrnod y dest ti drosodd aton ni. Ond dydy'r arweinwyr eraill ddim yn hapus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd Achis ar Ddafydd a dweud, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr wyt yn ddyn cywir ac wedi ymddwyn yn foddhaol yn fy ngolwg tra buost gyda mi yn y gwersyll; nid wyf wedi cael dim o'i le ynot ti o'r dydd y daethost ataf hyd heddiw; ond nid wyt yn dderbyniol yng ngolwg tywysogion y Philistiaid.