1 Samuel 29:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Dafydd wrth Achis, Ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist ti yn dy was, o'r dydd y deuthum o'th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond be dw i wedi ei wneud o'i le?” meddai Dafydd. “O'r diwrnod y dois i atat ti hyd heddiw, pa fai wyt ti wedi ei gael yn dy was? Pam ga i ddim dod i ryfela yn erbyn gelynion fy meistr, y brenin?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Dafydd wrth Achis, "Ond beth a wneuthum? Pa fai a gefaist ti yn dy was, o'r dydd y deuthum atat hyd heddiw, fel na chaf ddod i ryfela yn erbyn gelynion f'arglwydd frenin?"