1 Samuel 29:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd, Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i, megis angel DUW: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Ni ddaw efe i fyny gyda ni i'r rhyfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Achis yn ateb, “Dw i'n gwybod dy fod ti mor ddibynnol ag angel Duw! Ond mae arweinwyr eraill y Philistiaid wedi dweud na chei di fynd i ryfela gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Achis a dweud wrth Ddafydd, "Gwn dy fod cystal ag angel yn fy ngolwg i, ond y mae tywysogion y Philistiaid wedi dweud na chei di ddod gyda ni i'r frwydr.