1 Samuel 3:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bachgen Samuel a wasanaethodd yr ARGLWYDD gerbron Eli. A gair yr ARGLWYDD oedd werthfawr yn y dyddiau hynny; nid oedd weledigaeth eglur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[1-2] Roedd y bachgen Samuel yn dal i wasanaethu'r ARGLWYDD gydag Eli, oedd erbyn hynny wedi dechrau colli ei olwg ac yn mynd yn ddall. Yr adeg yna doedd pobl ddim yn cael neges gan Dduw yn aml, nac yn cael gweledigaethau. Ond digwyddodd rhywbeth un noson, tra roedd Eli'n cysgu yn ei ystafell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn y dyddiau pan oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron Eli, yr oedd gair yr ARGLWYDD yn brin, a gweledigaeth yn anfynych.