1 Samuel 3:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr ARGLWYDD yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Samuel yn dweud popeth wrtho. Wnaeth e guddio dim. Ymateb Eli oedd, “Yr ARGLWYDD ydy e, a bydd e'n gwneud beth mae e'n wybod sydd orau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, "Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg."