1 Samuel 3:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a alwodd eilwaith, Samuel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab; dychwel a gorwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Samuel eto. Cododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti ngalw i.” “Naddo, machgen i,” meddai Eli, “wnes i ddim dy alw di. Dos yn ôl i gysgu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna galwodd yr ARGLWYDD eto, "Samuel!" Cododd Samuel a mynd at Eli a dweud, "Dyma fi, roeddit yn fy ngalw." Ond dywedodd ef, "Nac oeddwn, fy machgen, dos yn l i orwedd."