1 Samuel 3:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr ARGLWYDD a alwasai ar y bachgen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Galwodd yr ARGLWYDD ar Samuel y trydydd tro; a dyma Samuel yn mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, gwnest ti fy ngalw i.” Dyna pryd sylweddolodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd yr ARGLWYDD eto'r drydedd waith, "Samuel!" A phan gododd a mynd at Eli a dweud, "Dyma fi, roeddit yn galw arnaf," deallodd Eli mai'r ARGLWYDD oedd yn galw'r bachgen.