1 Samuel 3:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd: ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, ARGLWYDD; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dwedodd wrtho, “Dos yn ôl i gysgu. Pan fydd e'n dy alw di eto, ateb fel yma: ‘Siarada ARGLWYDD, mae dy was yn gwrando.’” Felly dyma Samuel yn mynd yn ôl orwedd i lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dywedodd Eli wrth Samuel, "Dos i orwedd, ac os gelwir di eto, dywed tithau, 'Llefara, ARGLWYDD, canys y mae dy was yn gwrando'." Aeth Samuel a gorwedd yn ei le.