1 Samuel 30:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'i dug ef i waered: ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir, yn bwyta, ac yn yfed, ac yn dawnsio; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid, ac o wlad Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth e â Dafydd atyn nhw, roedden nhw dros bob man. Roedden nhw'n bwyta ac yn yfed ac yn dathlu am eu bod wedi llwyddo i ddwyn cymaint o wlad y Philistiaid ac o Jwda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth hwy, a dyna lle'r oeddent, ar wasgar dros wyneb yr holl dir, yn bwyta, yn yfed ac yn dawnsio o achos yr holl ysbail fawr a gymerwyd ganddynt o wlad y Philistiaid ac o Jwda.