1 Samuel 30:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a'r gwartheg; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill, ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna cymerodd Dafydd y defaid a'r gwartheg a'u gyrru nhw o flaen gweddill yr anifeiliaid. Roedd pawb yn dweud, “Dyma wobr Dafydd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Ddafydd adennill yr holl ddefaid ac ychen, gyrasant rai o flaen y lleill a dweud, "Ysbail Dafydd yw hyn."