1 Samuel 30:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod â'r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth Dafydd yn ôl i Wadi Besor, at y dau gant o ddynion oedd wedi bod yn rhy flinedig i'w ddilyn. Dyma'r dynion yn dod allan i'w gyfarfod e a'i filwyr. Pan ddaeth atyn nhw dyma Dafydd yn eu cyfarch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Dafydd at y ddau gant o ddynion oedd yn rhy flinedig i'w ganlyn, ac a oedd wedi eu gadael wrth nant Besor. Daethant hwythau allan i gyfarfod Dafydd a'r bobl oedd gydag ef; a phan ddaeth Dafydd yn ddigon agos, cyfarchodd hwy.