1 Samuel 30:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o'r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o'r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a'i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd yna rai dynion drwg am godi stŵr ymhlith y rhai aeth gyda Dafydd, a dyma nhw'n dweud, “Pam ddylai'r rhain gael siâr o'r ysbail? Wnaethon nhw ddim dod gyda ni! Caiff pob un ohonyn nhw gymryd ei wraig a'i blant yn ôl, ond wedyn rhaid iddyn nhw adael!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dyma'r dynion drwg a'r dihirod oedd ymysg y dynion a aeth gyda Dafydd yn dweud, "Gan na ddaethant hwy gyda ni, ni rown iddynt ddim o'r ysbail a achubwyd gennym; yn unig fe gaiff pob un gymryd ei wraig a'i blant a mynd ymaith."