1 Samuel 30:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth Dafydd i Siclag, efe a anfonodd o'r anrhaith i henuriaid Jwda, sef i'w gyfeillion, gan ddywedyd, Wele i chwi anrheg, o anrhaith gelynion yr ARGLWYDD;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedi i Dafydd ddod yn ôl i Siclag, dyma fe'n anfon peth o'r ysbail i arweinwyr Jwda roedd e'n ffrindiau gyda nhw. “Dyma i chi rodd o ysbail gelynion yr ARGLWYDD!” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Ddafydd ddychwelyd i Siclag, anfonodd beth o'r ysbail i henuriaid Jwda ac i'w gyfeillion, a dweud, "Dyma rodd i chwi o ysbail gelynion yr ARGLWYDD."